Mae prosiectau bwyd cymunedol PLANED yn mynd â’r prosiect y tu hwnt i’r cynlluniau peilot!
EIN PROSIECTAU BWYD
Credwn fod mynediad at fwyd a gyflenwir yn lleol yn bwysicach nag erioed. Dyna pam mai ein nod yw cysylltu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd â’r gymuned leol; i roi mynediad hawdd i fwyd iachus o werth mawr. Archwiliwch sut rydym yn gweithio gyda'r gymuned, cyflenwyr a gwirfoddolwyr trwy ein prosiectau bwyd.
Mae'r prosiect yn hwyluso gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd i gael mynediad hawdd at fwyd iachus o werth mawr.
Bydd cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael mynediad at gymorth uniongyrchol gan Swyddog Datblygu Prosiectau wedi ariannu er mwyn lansio canolfannau bwyd cynaliadwy, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymunedau.

Dosbarthiad Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD)
Cefnogi cymunedau i sefydlu Hybiau Bwyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae pobl, a’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud, yn hanfodol i sicrhau bod systemau bwyd lleol yn gweithio. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar roi’r hyder a’r sgiliau i wirfoddolwyr sefydlu a rhedeg hybiau bwyd eu hunain. Gan ddarparu profiad gwerthfawr a all hefyd ddarparu llwybrau at gyflogaeth.

Cymerwch Ran!
Ein nod yw cysylltu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd â’r gymuned leol; i sicrhau mynediad hawdd at fwyd iach sy’n werth am arian.

Mae Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro (PFCV) yn brosiect peilot a fydd yn rhoi’r cyfle i gael mynediad 24/7 i gyflenwyr Cymreig a chynnyrch lleol.
Gan weithio ochr yn ochr â phrosiect presennol Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, bydd yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, amgylcheddol, economaidd a gynaliadwy, gan ddod â chymunedau, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr ynghyd.

Gwerthu Cymunedol Ffres
Sir Benfro
Treialu Peiriannau Bwyd Ffres Ledled Sir Benfro.

Yr amcanion yw meithrin cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydgysylltu gweithgareddau sy’n ymwneud â bwyd yn well, creu system leol fwy cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro
Mae PLANED, PAVS a Chyngor Sir Penfro yn cydweithio i ddod â Chydlynydd Partneriaeth Bwyd Lleol penodol ar gyfer Sir Benfro i chi.

DARGANFOD FY HWB BWYD

Y DIWEDDARAF


© 2023 by WCFD
Cyfeiriad
Uned 13, Yr Hen Ysgol, Heol yr Orsaf, Arberth, Sir Benfro, Cymru, SA67 7DU

Mae prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru