top of page
plfp-logo.png
IMG_20230227_152504.jpg

PARTNERIAETH BWYD LLEOL
SIR BENFRO

PARTNERIAETH BWYD LLEOL SIR BENFRO

Hoffech chi wybod mwy am bartneriaethau bwyd a/neu fod yn rhan o Rwydwaith Bwyd Sir Benfro?

Mae PLANED, PAVS a Chyngor Sir Penfro yn cydweithio i ddod â Chydlynydd Partneriaeth Bwyd Lleol penodol ar gyfer Sir Benfro i chi.

Yr amcanion yw meithrin cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydgysylltu gweithgareddau sy’n ymwneud â bwyd yn well, creu system leol fwy cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy CLlLC, wedi darparu cyllid i gefnogi cydweithio rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol, i ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector a chryfhau partneriaethau bwyd presennol yn y rhanbarth.

Os hoffech wybod mwy neu ddod yn rhan o Rwydwaith Bwyd Sir Benfro, cysylltwch â ni - bwydfood@planed.org.uk

   

Dod yn aelod PLFP

Nod y bartneriaeth yw dod ag aelodaeth amrywiol ynghyd gan unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau bwyd, cynhyrchwyr a thyfwyr.

 

Bydd ymuno â'r bartneriaeth hefyd yn eich galluogi i dderbyn diweddariadau, newyddion, hyfforddiant a chyfleoedd ariannu rheolaidd.

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim. Defnyddiwch y ddolen hon i gofrestru

The Old School, Station Road, Narberth,
Pembrokeshire, Wales, SA67 7DU

Tel: 01834 860965

PLANED LOGO
EAFRD and Welsh Government Funding Logo

Wales Community Food Distribution project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government

bottom of page