top of page
Image of vegetable box outside of University building

EIN CYFLENWYR

Image of vegetables in blue boxes
Image of vegetables in blue boxes
Fresh and Fruity van delivering fruit and vegetables

EIN CYFLENWYR

Ein nod yw cysylltu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd â’r gymuned leol; i roi mynediad hawdd at fwyd iach sy’n werth gwych am arian.

 

Mae’n fodel gwych i gyflenwyr a chynhyrchwyr; gan greu marchnad barod a fydd yn cynhyrchu incwm hanfodol, na fyddai, o bosib, yn bodoli fel arall.

Dewch i gwrdd â’n cyflenwyr

FRESH AND FRUITY SHOP

Fresh & Fruity

Mae Fresh & Fruity yn deulu gweithgar sy'n rhedeg cwmni tyfu a gwerthu ffrwythau, llysiau a salad ffres yng nghanol Aberdaugleddau. Maen nhw’n cyflenwi hybiau yn Ninbych-y-Pysgod ac Aberdaugleddau, lle maen nhw’n darparu ffrwythau, llysiau a salad blasus i gwsmeriaid yr hwb. Maen nhw’n angerddol am fwyd sy’n cael ei dyfu’n naturiol.

Fairfield Caterers

Fairfield Caterers

Gwr a graig sy’n rhedeg busnes Fairfield Caterers, gan ddarparu prydau maethlon sydd wedi’u coginio â chariad ar olwynion yn Sir Benfro, De Ceredigion a Sir Gâr. Mae eu holl brydau wedi'u teilwra i weddu i anghenion pob cwsmer am brofiad unigryw ym mhob pryd.

DAIS FIVE A DAY SHOP

Dai’s Five a Day

Mae Dai’s Five a Day wedi bod yn cynnig cynnyrch ffres a lleol ers dros 5 mlynedd, ac wedi bod yn gweithio gyda WCFD yn ddiweddar i gyflenwi hwb Penfro, Tŷ’r Ffowndri.  Mae eu staff cyfeillgar, gwybodus wastad yn hyfryd, a'u hangerdd am gynnyrch o ansawdd uchel sy’n llywio eu busnes yn Noc Penfro.

Little Croft Chocolate

Little Croft Chocolate

Busnes bach yn Hendy-gwyn ar Daf yw Little Croft Chocolate. Maen nhw’n cynhyrchu bariau siocled blasus sydd wedi’u gwneud â llaw. Mae Little Croft Chocolate yn defnyddio pecynnau di-blastig 100% sy’n cael eu creu’n lleol. Daw Little Croft Chocolate mewn saith blas gwahanol.

Top Joes Tenby

Top Joe’s Pizza

Yn agos at galonnau trigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd, mae enw Top Joe’s yn gyfystyr â phrofiad bwyta Eidalaidd go iawn, gyda thai bwyta yn Ninbych-y-Pysgod ac Arberth. Mae Top Joe’s Pizza yn cyflenwi ein peiriannau gwerthu gyda chitiau pitsa i’w goginio gartref, gan ddefnyddio’r un cynhwysion ag y mae cogyddion Top Joe’s yn eu defnyddio i gynhyrchu eu pitsas gwobredig.

Caws Cenarth

Caws Cenarth

Busnes teuluol yw Caws Cenarth sy’n cynhyrchu caws gwobredig yn Sir Gâr. Mae eu cawsiau bendigedig yn cael eu hystyried ymhlith y gorau yng Nghymru erbyn hyn. Mae Caws Cenarth yn defnyddio llaeth o fewn 30 milltir i’r llaethdy. Mae ganddyn nhw amrywiaeth o gawsiau, o gaws cheddar organig i’w caws eiconig Perl Las.

Capital Roasters

Capital Roasters

Mae Capital Roasters yn gwmni rhostio coffi yn Noc Penfro. Mae Capital Roasters yn rhostio amrywiaeth o ffa o rai o’r gwledydd sy’n cynhyrchu coffi gorau’r byd, gan gyflenwi coffi anhygoel i unigolion a busnesau.

Pembrokeshire Farm Eggs

Pembrokeshire Farm Eggs

Cwmni cynhyrchu wyau maes o Ddinbych-y-Pysgod yw Pembrokeshire Farm Eggs. Maen nhw’n  fferm weithgar gyda dros 64,000 o ieir maes, gan gynhyrchu 60,000 o wyau y dydd. Maen nhw’n cyflenwi'n uniongyrchol i'r cwsmer ac i gwmnïau arlwyo i wneud bwyd gwych gyda'u wyau o ansawdd anhygoel.

FRESH AND FRUITY

ASTUDIAETHAU ACHOS
Fresh & Fruity

“Dwi’n credu ei fod yn wych y bydd pobl yn prynu cynnyrch lleol sy’n cael ei dyfu’n lleol. Rydyn ni’n pigo’r cynnyrch y noson cyn i ni eu gwerthu nhw, felly mae ein holl gynnyrch yn hynod o ffres. Dwi’n credu bod blas ffrwythau a llysiau sy’n wirioneddol ffres gymaint gwell na phrynu llysiau sy’n ddiwrnodau oed yn yr archfarchnadoedd mawr, ac rydyn ni’n hapus i gynnig hynny."

Michelle o Fresh & Fruity

Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi arbed arian i bobl leol. Rydyn ni’n gweithio gyda WCFD i rymuso’r gymuned leol, i beidio â gwneud elw ar yr hyn rydyn ni’n ei werthu yn yr hwb. Rydyn ni’n ceisio annog pobl i ddatblygu eu sgiliau coginio pan fyddan nhw’n dod i'r siop, felly mae cyflenwi’r hybiau bwyd yn gyfle gwych i ni helpu gyda siwrnai bwyd ein cwsmeriaid a’u hannog i ddefnyddio cynnyrch gwahanol i’r arfer ochr yn ochr â’u bwyd arferol."

Dai’s Five a Day

DAIS FIVE A DAY

ASTUDIAETHAU ACHOS
Dai’s Five a Day

bottom of page