top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Fresh & Fruity

Mae Fresh & Fruity yn deulu gweithgar sy'n rhedeg cwmni tyfu a gwerthu ffrwythau, llysiau a salad ffres yng nghanol Aberdaugleddau.


Mae Fresh & Fruity yn deulu gweithgar sy'n rhedeg cwmni tyfu a gwerthu ffrwythau, llysiau a salad ffres yng nghanol Aberdaugleddau. Maen nhw’n cyflenwi hybiau WCFD yn Ninbych-y-Pysgod ac Aberdaugleddau, lle maen nhw’n darparu ffrwythau, llysiau a salad blasus i gwsmeriaid yr hwb. Maen nhw’n angerddol am fwyd sy’n cael ei dyfu’n naturiol, ac mae eu cynnyrch yn cael ei dyfu â chariad drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol.


Dyma oedd gan Michelle o Fresh & Fruity i’w ddweud am y prosiect:


“Dwi’n credu ei fod yn wych y bydd pobl yn prynu cynnyrch lleol sy’n cael ei dyfu’n lleol. Rydyn ni’n pigo’r cynnyrch y noson cyn i ni eu gwerthu nhw, felly mae ein holl gynnyrch yn hynod o ffres. Dwi’n credu bod blas ffrwythau a llysiau sy’n wirioneddol ffres gymaint gwell na phrynu llysiau sy’n ddiwrnodau oed yn yr archfarchnadoedd mawr, ac rydyn ni’n hapus i gynnig hynny.
Mae’r hybiau eu hunain yn wych – dwi mor hapus fel person lleol i weld eu bod yn rhoi rhywbeth i’r gymuned ac yn cynnig sgiliau gydol oes i’w gwirfoddolwyr. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm WCFD, ac rwy’n falch iawn eu bod wedi cynnwys busnesau teuluol fel ein busnes ni.”

Hyd yma, mae Fresh & Fruity wedi cludo cyfanswm o 44 o focsys bwyd, sef 88kg o fwyd ffres i gymunedau lleol. Diolch i’w cyfraniad i’r hwb, mae ein cwsmeriaid wedi arbed £6.47 ar gyfartaledd wrth siopa am nwyddau.


Os hoffech chi gael gwybod mwy e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk

bottom of page