top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Hwb Bwyd Hwlffordd

Elusen leol fach yn Ne Orllewin Cymru yw FRAME sy’n cynorthwyo unigolion gydag iechyd meddwl, ac anableddau corfforol a dysgu. Mae ganddo ddau o allfeydd manwerthu, maent yn casglu ac anfon eitemau ac mae ganddynt nifer o weithwyr ynghyd â gweithlu gwirfoddoli anhygoel sy’n rhannu amser/sgiliau ac yn cynorthwyo’r unigolion sy’n ymwneud ag o.


Cynhelir Hwb Bwyd Cymunedol Hwlffordd gan wirfoddolwyr ar ddydd Mercher ochr yn ochr â’r oergell gymunedol. Mae oergelloedd cymunedol yn ffordd o helpu i leihau bwyd bwytadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, wrth helpu i gysylltu’r gymuned.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Daeth FRAME yn rhan o hyn ar ôl gweld y prosiect WCFA yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl clywed sut oedd yr hybiau bwyd yn gweithredu, roeddent yn awyddus i gymryd rhan a chael hwb bwyd yn rhedeg ochr yn ochr â’r oergell gymunedol. Mae’r oergell gymunedol yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr beth bynnag felly roedd yn gwneud synnwyr cael yr hwb bwyd ar yr un diwrnod, gyda chefnogaeth y gwirfoddolwyr hynny.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae’n cadw’r arian yn lleol fel economi gylchol ac mae wedi bod yn wych cysylltu a chydweithio’n agosach gyda PHLANED. Mae’r adnoddau a ddarperir yn wych ac rydym wedi meithrin perthynas gyda sefydliadau eraill. Roedd cael PLANED yn hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yn hynod o gadarnhaol ynghyd â lansiad teilwng.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Gyda’r oergell gymunedol yn cynorthwyo’r hwb bwyd, fe hoffai FRAME adeiladu synnwyr o gymuned, gan gynnig pethau fel ryseitiau i annog pobl i fabwysiadu arferion coginio a bwyta iachach. Y rheswm pennaf dros gymryd rhan yw ynghylch lleihau gwastraff bwyd, defnyddio llai o ddeunydd pacio a lleihau milltiroedd bwyd, gyda’r awydd i gysylltu’r tyfwr a’r cwsmer yn ail agos hefyd, ac mae ‘r fenter WCFD yn arddangos y cyfan.

"Mae’r hwb bwyd cymunedol yn cadw arian yn lleol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cydfynd â’n hethos dim gwastraff". - FRAME
"Fe wnaethom gymryd rhan gan ein bod eisiau gallu cynnig bwyd heb ei becynnu, sydd heb deithio milltiroedd ac yn cefnogi busnes lleol" - FRAME

Dogfen ar gael:


WCFD Case Study - Haverfordwest
.pdf
Download PDF • 921KB



bottom of page