top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Dai's Five a Day

Groser annibynnol bychan ym Mhenfro yw Dai’s Five a Day. Maent wedi bod yn gweithredu ers oddeutu 12 mlynedd ac yn gwerthu ffrwythau, llysiau a salad ynghyd â chacennau a chyffeithiau cartref. Maent yn defnyddio manwerthwr ac yn cael eu cynnyrch gan dyfwyr lleol.


Dechreusant gyflenwi Hwb Bwyd Cymunedol Penfro, sy’n gweithredu o Foundry House, ym mis Mehefin 2022, gyda bagiau ffrwythau, llysiau a salad am £5 y bag.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Gofynnodd staff PLANED i Dai’s Five a Day ym mis Mehefin 2022 i gyflenwi bagiau llysiau £5 ac ers hynny maent wedi mynd yn eu blaenau i gyflenwi ffrwythau a salad hefyd. Mae gwirfoddolwyr yr hwb bwyd cymunedol yn anfon archeb fwyd wythnosol o flaen llaw ac yna’n casglu’r archebion i fynd â nhw’n ôl i’w cwsmeriaid. Yn yr achos hwn, maen tyn darparu bagiau ar wahân wedi eu gwneud yn barod i gwsmeriaid unigol.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae’n cyrraedd pobl na fyddai fel arall yn dod i’r siop felly mae’n rhoi sylfaen cwsmer newydd i ni. Mae’n drefniant da gan ei fod yn dod ag archeb fechan reolaidd ac mae’n defnyddio’r dull talu wrth gasglu felly nid oes gwastraff.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae bod yn rhan o’r fenter WCFD yn dod ag incwm ychwanegol yn wythnosol, mae’n hwb ariannol bychan. Maent yn cydnabod bod prisiau’n codi felly maent yn mwynhau darparu cynnyrch ffres i bobl na fyddai fel arall, o bosib, yn gallu ei fforddio.

"Rydym yn hapus i ddarparu gwasanaeth mwy personol i’r hwb bwyd cymunedol drwy gydweithio â gwirfoddolwyr" - DAI'S FIVE A DAY
"Rydym yn mwynhau darparu cynnyrch ffres i bobl na fyddai fel arall, o bosib, yn gallu ei fforddio." - DAI'S FIVE A DAY

Dogfen ar gael:


WCFD Case Study - Dai's Five a Day
.pdf
Download PDF • 835KB



bottom of page