top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Hwb Bwyd Penfro

Yn 2004, cododd Cymdeithas Gymunedol 21G Penfro 21G oedd newydd ei sefydlu’r pris gofyn a phrynu Foundry House ar ran pobl Penfro. Ers hynny, mae Foundry House wedi bod yn lleoliad i ddwsinau o grwpiau lleol a digwyddiadau untro, yn ogystal ag ystod eang o brosiectau cymunedol.


Mae Foundry House yn ganolfan gymunedol sydd wedi ei lleoli yn nhref Penfro. Mae’n cael ei gynnal bron iawn yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Ym mis Mehefin 2022 daeth Foundry House yn lleoliad Hwb Bwyd Cymunedol Penfro, gan ddarparu bagiau o ffrwythau ffres, llysiau a salad gan ddefnyddio groser gerllaw.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae cael menter megis yr hwb bwyd cymunedol yn cael ei gynnal yn wythnosol wedi golygu bod cwsmeriaid newydd yn dod i’r ganolfan ac yn gallu darganfod a chael yr hawl i weithgareddau eraill sydd ar gael.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae Hwb Bwyd Cymunedol Penfro’n boblogaidd ymysg rhieni yn yr ysgol leol, yn darparu cyfleoedd iddynt gael yr hawl i fwyd iach, ffres a fforddiadwy i’w teuluoedd. Mae’r grŵp wedi datblygu blog ryseitiau’n seiliedig ar gynnwys bagiau bwyd yr hwb, gan roi cyfle gwell i rannu gwybodaeth a chyrraedd y gymuned ehangach.


Dros y gaeaf, bu i’r fenter Mannau Cynnes gydweithio â’r hwb bwyd cymunedol gan roi cyfle i gwsmeriaid gynilo arian, bwyta’n iach a chael y cymorth ar yr un pryd.


"Rydym wedi derbyn hyffordiant drwy'r [y hwb bwyd] sydd wedi datblygu ein set sgiliau."- GWIRFODDOLWR FOUNDRY HOUSE
"Casgliad hyfryd arall o lysiau i’w weld o’r hwb bwyd cymunedol yr wythnos hon." - CWSMER HWB BWYD CYMUNEDOL PENFRO

Dogfen ar gael:


WCFD Case Study - Pembroke
.pdf
Download PDF • 893KB



bottom of page