top of page

Er bod cymorth penodol gan WCFD/PFCV bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, bydd yr Hybiau Bwyd a'r Peiriannau Gwerthu sefydledig yn parhau i weithredu fel arfer. Darllen mwy...

CYSYLLTWCH Â NI

Derbyniodd prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a phrosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Daeth y ddau brosiect i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2023 a bellach nid oes unrhyw gymorth penodol ar ôl cwblhau’r rhaglen. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y bydd PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol yn gallu helpu.

Cyfeiriad

Uned 13, Yr Hen Ysgol, Heol yr Orsaf, Arberth, Sir Benfro, Cymru, SA67 7DU

Cysylltwch

01834 860965

  • Facebook
  • Instagram

AM PLANED

Mae PLANED yn gweithio gyda chymunedau i adeiladu ar eu cryfderau. Maent yn hyrwyddo ac yn defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu a chefnogi cymunedau i helpu i wneud dyfodol cynaliadwy.

Ewch i Wefan

DOD O HYD I FY HWB BWYD

Nodwch:

Daeth prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a phrosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2023. Er bod cymorth penodol gan WCFD/PFCV wedi'i gwblhau, bydd yr Hybiau Bwyd a'r Peiriannau Gwerthu sefydledig yn parhau i weithredu. Ni fydd y wybodaeth yn y map Hybiau Bwyd isod yn cael ei diweddaru ar ôl 30.06.2023.


Argymhellwn felly y dylech wneud pob ymholiad priodol gyda’r canolfannau unigol i gadarnhau cywirdeb y manylion a ddarparwyd

Cyn bwriadu ymweld ag unrhyw un o’r safleoedd sydd wedi’u cynnwys ar y map hwn, rydym yn argymell y dylech wneud pob ymholiad priodol ynghylch addasrwydd i’r diben ac addasrwydd i ddiwallu’ch anghenion. Mae unrhyw un sy'n ceisio defnyddio neu gael mynediad at y gwasanaethau hyn yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain. Ni allwn fod yn gyfrifol, na derbyn unrhyw atebolrwydd am gwynion neu hawliadau o unrhyw natur sy'n deillio o wybodaeth a gymerwyd o'r wefan hon.

Rydym wedi cymryd gofal rhesymol i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir ar y Map Hybiau Bwyd. Mae'r deunydd a ddarperir er gwybodaeth yn unig ac nid yw'n ardystiad o'r gwasanaethau a ddisgrifir. Mae'r map yn cyfeirio at wefannau trydydd parti a ddarperir er hwylustod a gwybodaeth i chi yn unig ac nid yw'n dynodi ardystiad PLANED ac na ellir gwarantu cywirdeb y cynnwys ar eu cyfer. Nid oes gan PLANED unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys ar wefan(nau) cysylltiedig nac am unrhyw golled/difrod neu anghyfleustra a allai ddeillio o’ch defnydd ohonynt. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn nac unrhyw ran o'r cynnwys a gynhwysir ar y gwefannau hynny. Unwaith y byddwch wedi gadael ein gwefan, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu a phreifatrwydd unrhyw ddata a ddarperir gennych.

bottom of page