top of page

Er bod cymorth penodol gan WCFD/PFCV bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, bydd yr Hybiau Bwyd a'r Peiriannau Gwerthu sefydledig yn parhau i weithredu fel arfer. Darllen mwy...

_1080417_edited.jpg

DECHRAU HWB BWYD

Ein nod oedd cysylltu cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd â’r gymuned leol; i roi mynediad hawdd i fwyd iachus o werth mawr. Rydym wedi datblygu canllaw i ddechrau eich hwb bwyd eich hun yn ein Pecyn Cymorth y gellir ei lawrlwytho.

ABOUT

CEFNOGI CYMUNEDAU I SEFYDLU HYBIAU BWYD

Derbyniodd prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru a phrosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Daeth y ddau brosiect i ben yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2023 a bellach nid oes unrhyw gymorth penodol ar ôl cwblhau’r rhaglen. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y bydd PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol yn gallu helpu.

 

Eisiau gwybod mwy? Rydym ni wedi ateb rhai o’n cwestiynau cyffredin isod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw’r prosiect?
    Mae hybiau bwyd cymunedol WCFD yn ffordd wych o gysylltu pobl ag o ble daw bwyd. Fel rhan o raglen beilot Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gysylltu gwirfoddolwyr â chyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd er mwyn iddyn nhw gael gafael ar fwyd iach sy’n werth da am arian yn hawdd. Bydd cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael cymorth uniongyrchol sydd wedi’i ariannu gan Swyddog Datblygu Prosiect er mwyn lansio hybiau bwyd cynaliadwy, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymunedau.
  • Pwy sy’n ei ariannu?
    Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ariennir WCFD tan fis Mehefin 2023
  • Pa fwyd fydd ar gael yn yr hyb bwyd?
    Mae tîm WCFD yn helpu lansio hybiau bwyd cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i gynyddu mynediad at fwyd ffres sy’n werth am arian. Gall hyn gynnwys ffrwythau, llysiau, salad, cynnyrch llaeth, bara, pysgod, cig a mwy. Bydd eich Swyddog Datblygu yn gweithio gyda chi a’ch cyflenwyr lleol i ddod o hyd i’r dewisiadau iawn ar gyfer eich cymuned.
  • Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am WCFD? Sut galla i gwrdd â’r tîm?
    Mae’r tîm ar gael am sgwrs am yr hybiau bwyd tan 30 Mehefin 2023. Mae gennym becyn cymorth ar gael yma gydag adnoddau a gwybodaeth am sut i sefydlu eich hyb bwyd cymunedol eich hun. Gallwch hefyd ymweld â hybiau bwyd cymunedol presennol a ddangosir ar ein map hybiau bwyd ar ddiwrnodau hwb.

SUT MAE’N GWEITHIO

Lansio

Grŵp Cymunedol Cymorth WCFD i lansio Hyb Dosbarthu Bwyd

Danfon

Mae cyflenwyr yn darparu’r archeb ar ddiwrnod ac amser o ddewis yr Hyb

Casglu

Mae cwsmeriaid yn casglu archeb wythnosol ac yn gwneud ac yn talu am yr archeb nesaf

Trefnu

Mae gwirfoddolwyr yr hyb yn trefnu’r archebion ac yn agor i’r cwsmeriaid eu casglu

Archebu

Mae’r Hyb yn gosod yr archebion mewn swp ar gyfer yr wythnos ganlynol

Y Gymuned

Gall gweithgareddau eraill gael eu cynnal ar yr un pryd e.e. grwpiau cymunedol,

WCFD 2023 Round Up

WCFD 2023 Round Up

Play Video
  • Beth yw’r prosiect?
    Mae hybiau bwyd cymunedol WCFD yn ffordd wych o gysylltu pobl ag o ble daw bwyd. Fel rhan o raglen beilot Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gysylltu gwirfoddolwyr â chyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd er mwyn iddyn nhw gael gafael ar fwyd iach sy’n werth da am arian yn hawdd. Bydd cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael cymorth uniongyrchol sydd wedi’i ariannu gan Swyddog Datblygu Prosiect er mwyn lansio hybiau bwyd cynaliadwy, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymunedau.
  • Pwy sy’n ei ariannu?
    Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ariennir WCFD tan fis Mehefin 2023
  • Pa fwyd fydd ar gael yn yr hyb bwyd?
    Mae tîm WCFD yn helpu lansio hybiau bwyd cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i gynyddu mynediad at fwyd ffres sy’n werth am arian. Gall hyn gynnwys ffrwythau, llysiau, salad, cynnyrch llaeth, bara, pysgod, cig a mwy. Bydd eich Swyddog Datblygu yn gweithio gyda chi a’ch cyflenwyr lleol i ddod o hyd i’r dewisiadau iawn ar gyfer eich cymuned.
  • Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am WCFD? Sut galla i gwrdd â’r tîm?
    Mae’r tîm ar gael am sgwrs am yr hybiau bwyd tan 30 Mehefin 2023. Mae gennym becyn cymorth ar gael yma gydag adnoddau a gwybodaeth am sut i sefydlu eich hyb bwyd cymunedol eich hun. Gallwch hefyd ymweld â hybiau bwyd cymunedol presennol a ddangosir ar ein map hybiau bwyd ar ddiwrnodau hwb.

TANYSGRIFIO

Diolch!

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi

CYSYLLTWCH Â NI

07502 050099

Image of boardroom
  • White Facebook Icon

Dewch o hyd i ni ar

Facebook

bottom of page