top of page
Photo of Abi Marriot

EIN TÎM

Photo of Fern Lewis
Photo of Sam Stables

AMDANOM NI

Dan arweiniad PLANED, mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a bydd Menter Hybiau Bwyd Cymunedol Cymru yn ymateb i’r adferiad Covid 19 ac yn galluogi cymunedau ar draws de orllewin Cymru i gael gafael ar fwyd iach a fforddiadwy.

Cwrdd â’r Tîm

Photo of Abi Marriot

Ymunodd Abi â PLANED ym mis Mawrth 2019 fel un o’n Swyddogion Gwytnwch Llesiant a Chymuned, yn arwain Prosiect CWBR, sydd wedi ei ariannu gan LEADER Arwain Sir Benfro.Ar ôl cyfnod peilot llwyddiannus, aeth ymlaen i gefnogi lansiad y Prosiect Ieuenctid CWBR wedi’i ariannu gan y Loteri. Mae hi wedi bod yn rhan o Fenter Dosbarthu Bwyd yng Nghymunedau Cymru PLANED ers y dechrau drwy lansio hybiau bwyd ac mae hi bellach yn edrych ymlaen at gydlynu prosiect.


Mae ganddi radd mewn Cynhwysiant Cymdeithasol, gyda chymwysterau a sgiliau mewn rhoi hyfforddiant, dulliau cyfathrebu a rheoli gwirfoddolwyr.


Mae Abi yn un o ymddiriedolwyr Span Arts, ac yn ei hamser rhydd, mae hi’n mwynhau garddio a cherdded o amgylch ein sir hardd.
Mae’n hynod bwysig iddi fod llais pawb yn cael ei glywed, a bod pawb yn cael eu cynnwys ac yn hapus o fewn eu cymuned.

 

Photo of Abi Marriot

Abi

Marriott

Swyddog Datblygu Prosiect

Ymunodd Fern â PLANED ym mis Hydref 2022 fel Swyddog Datblygu Prosiect ar gyfer menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru.


Mae’n dod â chyfoeth o brofiad gyda hi o’r diwydiant lletygarwch, ac arferai redeg ei chaffi ei hun yn Sir Benfro, gan hyrwyddo bwyta’n iach a chydlynu digwyddiadau i gryfhau cysylltiadau yn y gymuned.


Cyn hynny, roedd ei chefndir yn y maes Logisteg a Chriwio Morol, a alluogodd hi i dreulio llawer o flynyddoedd yn teithio a gweithio dramor.


Mae Fern yn frwd dros hyrwyddo cynnyrch o Gymru ac mae hi o’r farn y dylai pawb gael mynediad at fwyd maethlon, cynaliadwy.
Yn ystod ei hamser hamdden mae’n mwynhau tyfu llysiau yn ei gardd gegin neu archwilio tirweddau Gorllewin Cymru a thu hwnt.

Photo of Fern Lewis

Fern Lewis

Swyddog Datblygu Prosiect

Photo of Fern Lewis
Photo of Sam Stables

Ymunodd Sam Stables â PLANED ym mis Medi 2022 fel Swyddog Cynnyrch ar gyfer Menter Hybiau Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru.

Mae hi’n fyfyriwr Darlunio graddedig (Prifysgol Celfyddydau Leeds), ac wedi gwirfoddoli gydag elusennau lleol a phrosiectau cymunedol yn y gorffennol, yn cynnig ei gwasanaeth fel dylunydd graffeg i greu taflenni a chynnyrch er mwyn codi arian. Mae hi’n frwd dros gynnyrch lleol a bwydydd iach, y mae hi’n gobeithio eu cyflwyno i’w gwaith ar y prosiect WCFD.

Ochr yn ochr â’i gwaith yn PLANED, mae Sam yn gweithio fel artist, ac mae ganddi gleientiaid ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae hi’n datblygu gêm fideo yn seiliedig ar dreftadaeth Gymreig gyda’i chyd-artistiaid.

Photo of Sam Stables

Sam Stables

Swyddog Datblygu Prosiect

My project-1 (12).png

Ymunodd Alex â WCFD ym mis Ionawr 2023 fel Swyddog Datblygu Sir Gaerfyrddin.

Mae gan Alex BSc (Anrh) mewn Bioleg Forol ac Ecoleg Arfordirol ac MSc Ewropeaidd mewn Rheolaeth Dŵr ac Arfordirol, ond dewisodd drosi ei diddordeb yn yr amgylchedd ac ecoleg i’r maes garddwriaeth ac amaethyddiaeth graddfa fach.

Cyn gweithio i PLANED, roedd Alex yn cyd-redeg ac yn tyfu ar gyfer CIC, blwch llysiau organig yn Sir Gaerfyrddin, ac mae hi’n parhau i fod ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y CIC. Yn ogystal â hyn, mae Alex hefyd yn rhan o grŵp llywio Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin. Cyn hyn, treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio fel garddwriaethwr ar ystadau mawr ac yn gweithio fel garddwr llawrydd.

Pan nad yw’n gweithio, mae Alex yn mwynhau tyfu llysiau gartref (gan blannu perllan fach yn ddiweddar), gwylio ei heir gyda phaned o de, chwarae yn yr awyr agored, un ai ar y tir neu ar y dŵr, a threulio amser gyda’i theulu.

My project-1 (13).png

Alex Nicholas

Swyddog Datblygu Prosiect

Photo of Ioan Lloyd

Ymunodd Ioan â PLANED ym mis Gorffennaf 2022 gan roi cymorth gweinyddol i’r prosiect WCFD.
Mae Ioan yn meddu ar ddiploma coleg mewn astudiaethau busnes a diploma rheolaeth ceffylau. Yn ystod ei astudiaethau, enillodd Ioan sawl gwobr ochr yn ochr â’i gydfyfyrwyr. Llwyddodd i gystadlu ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, gan dderbyn gwobr menter yr ifanc am ddyfeisio cynnyrch a gyrhaeddodd rowndiau terfynol cenedlaethol Cymru. Yn ogystal, mae gan Ioan wobr arian Dug Caeredin. Cyflwynodd Ioan hefyd astudiaethau ymchwil mewn rheolaeth ceffylau i Bennaeth y Gyfadran yn dilyn ei ymweliad â phrifysgol geffylau yn Sweden o’r enw Flyinge.
Yn y gorffennol, bu’n gwirfoddoli mewn dwy rôl. Un o’r rolau gwirfoddol hyn oedd fel derbynnydd a chynorthwyydd mewn canolfan i blant gan gynorthwyo staff a phlant ag amrywiol alluoedd. Roedd ei ail rôl wirfoddol mewn ysgol marchogaeth ceffylau lle bu’n cynorthwyo staff i arwain a gofalu am y ceffylau.
Symudodd i fyw’n ddiweddar i Sir Benfro i ddechrau bywyd newydd. Yn ei amser hamdden, fe welwch Ioan yn aml yn symud bwyd ac adnoddau hanfodol gyda’i dractor o amgylch bythynnod gwyliau’r busnes teuluol. 
Mae Ioan yn agored iawn gyda phawb ei fod â’r cyflwr Parlys yr Ymennydd, sydd ond yn rhan fechan ohono o ystyried ei bersonoliaeth a’i lwyddiannau hyd yma. Mae ef hefyd yn gwneud ei orau glas i gyflawni’r un nodau â’i gydweithwyr.

 

Photo of Ioan Lloyd

Ioan Lloyd

Swyddog Datblygu Prosiect

team

Ymunodd Rachael â PLANED yn ystod mis Tachwedd 2021 i ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer y prosiect LEADER Sir Benfro wrth iddo ddod i ben. Ers mis Ionawr mae hi wedi cymryd y rôl Swyddog Cefnogi Prosiect ar gyfer y Prosiect Ieuenctid CWBR.
Mae ganddi BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Prifysgol Reading) a MA mewn Rheolaeth Gwasanaethau Gwybodaeth (Prifysgol Gogledd Llundain). Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau dychwelodd i Gymru ac mae hi wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y sector addysg uwch, gan gynnwys gweithio fel Swyddog Datblygu ar gyfer Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.
Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn teithio ar gyfer ei rolau amrywiol, mae Rachael bellach yn mwynhau’r cyfle i fyw a gweithio yng nghymuned Sir Benfro. Hi yw Ysgrifennydd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Arberth ac mae hi hefyd wedi gwirfoddoli yn Amgueddfa Arberth ar sail ad hoc am nifer o flynyddoedd.
Mae hi’n rhedwr brwd (er ychydig yn araf!) ac wedi cwblhau sawl ras 10k, hanner marathon a dau farathon. Mae hi’n mwynhau coginio a phobi ac yn gwneud ei bara ei hun bob wythnos. Gyda chefndir fel llyfrgellydd mae hi wrth gwrs yn ddarllenwr brwd iawn.

Photo of Rachael Whitfield

Rachael Whitfield

Swyddog Datblygu Prosiect

Photo of Rachael Whitfield

CYSYLLTWCH Â NI

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi

07502 050099

Image of boardroom
  • White Facebook Icon

Dewch o hyd i ni ar

Facebook

bottom of page