top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Dai’s Five a Day

Mae Dai’s Five a Day wedi bod yn cynnig cynnyrch ffres a lleol ers dros 5 mlynedd, ac wedi bod yn gweithio gyda WCFD yn ddiweddar i gyflenwi hwb Penfro, Tŷ’r Ffowndri. Mae eu staff cyfeillgar, gwybodus wastad yn hyfryd, a'u hangerdd am gynnyrch o ansawdd uchel sy’n llywio eu busnes yn Noc Penfro.

Dyma oedd gan Dai’s Five a Day i’w ddweud am eu gwaith anhygoel:

“Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi arbed arian i bobl leol. Rydyn ni’n gweithio gyda WCFD i rymuso’r gymuned leol, i beidio â gwneud elw ar yr hyn rydyn ni’n ei werthu yn yr hwb. Rydyn ni’n ceisio annog pobl i ddatblygu eu sgiliau coginio pan fyddan nhw’n dod i'r siop, felly mae cyflenwi’r hybiau bwyd yn gyfle gwych i ni helpu gyda siwrnai bwyd ein cwsmeriaid a’u hannog i ddefnyddio cynnyrch gwahanol i’r arfer ochr yn ochr â’u bwyd arferol.
Rydyn ni'n ceisio cael cynnyrch mor ffres â phosib, fel bod yr ansawdd cystal ag y gallwn ei gynnig. Rydyn ni wir yn malio am gynnyrch lleol o ansawdd uchel, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfle y mae PLANED wedi’i roi.”

Hyd yma, mae Dai’s Five a Day wedi cyflenwi dros 200 o focsys bwyd, sy’n gyfystyr â 500 kg ar gyfartaledd o ffrwythau, llysiau a salad ffres i’n hwb. Mae cwsmeriaid Tŷ’r Ffowndri wedi arbed £6.38 ar gyfartaledd wrth siopa. Mae ein holl gwsmeriaid yn yr hwb wedi arbed swm hollol anhygoel o £1,200.

Os hoffech chi gael gwybod mwy e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk

bottom of page