Sad, 16 Gorff
|Lampeter
Dosbarthiad Bwyd Cymunedol Cymru yn lansio ei hwb bwyd cyntaf yng Ngheredigion…
Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, wrth ei bodd yn lansio ei hwb fwyd cyntaf ym mis Gorffennaf. Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.
Time & Location
16 Gorff 2022, 11:00 – 12:00
Lampeter, Rhoslwyn, Lampeter SA48 7HB, UK
About the event
Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, wrth ei bodd yn lansio ei hwb fwyd cyntaf ym mis Gorffennaf.
Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.
Bydd hwb Llambed yn lansio ar 16 Gorffennaf am 11am ar gampws y brifysgol. I ddechrau, bydd hwb bwyd cymunedol Llambed yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres gyda'r bwriad o ddatblygu'r amrywiaeth o gynnyrch yn y dyfodol.
Dyma'r cyntaf i agor yng Ngheredigion, ond rydym yn parhau i ddatblygu hybiau ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru.
Dywedodd Hazel Thomas, cydlynydd Canolfan Tir Glas, “Mae CTG yn hapus i gefnogi’r fenter bwysig hon sy’n cael ei chyflwyno gan PLANED ar draws Gorllewin Cymru. Bydd hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned brynu bwyd ffres, iach a fforddiadwy. Rydym yn mawr obeithio bydd y gymuned yn manteisio ar hyn, yn enwedig gan ein bod yn gweithio gyda busnes lleol, Six Nations Fruit and Veg, sydd wedi cytuno i gefnogi’r fenter hon.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.