top of page
_1080417_edited.jpg

START A FOOD HUB

Our aim is to link food producers and suppliers with the local community; to give easy access to healthy and great value food. 

ABOUT

CEFNOGI CYMUNEDAU I SEFYDLU HYBIAU BWYD

Fel rhan o raglen beilot Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae hybiau bwyd cymunedol yn ffordd wych o gysylltu pobl ag o ble daw bwyd.   Mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gysylltu gwirfoddolwyr â chyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd er mwyn iddyn nhw gael gafael yn hawdd ar fwyd iach sy’n werth da am arian.

 

Eisiau gwybod mwy? Rydym ni wedi ateb rhai o’n cwestiynau cyffredin isod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw’r prosiect?
    Mae hybiau bwyd cymunedol WCFD yn ffordd wych o gysylltu pobl ag o ble daw bwyd. Fel rhan o raglen beilot Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gysylltu gwirfoddolwyr â chyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd er mwyn iddyn nhw gael gafael ar fwyd iach sy’n werth da am arian yn hawdd. Bydd cymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael cymorth uniongyrchol sydd wedi’i ariannu gan Swyddog Datblygu Prosiect er mwyn lansio hybiau bwyd cynaliadwy, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion cymunedau.
  • Pwy sy’n ei ariannu?
    Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ariennir WCFD tan fis Mehefin 2023
  • Pa fwyd fydd ar gael yn yr hyb bwyd?
    Mae tîm WCFD yn helpu lansio hybiau bwyd cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i gynyddu mynediad at fwyd ffres sy’n werth am arian. Gall hyn gynnwys ffrwythau, llysiau, salad, cynnyrch llaeth, bara, pysgod, cig a mwy. Bydd eich Swyddog Datblygu yn gweithio gyda chi a’ch cyflenwyr lleol i ddod o hyd i’r dewisiadau iawn ar gyfer eich cymuned.
  • Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am WCFD? Sut galla i gwrdd â’r tîm?
    Mae’r tîm ar gael am sgwrs am yr hybiau bwyd tan 30 Mehefin 2023. Mae gennym becyn cymorth ar gael yma gydag adnoddau a gwybodaeth am sut i sefydlu eich hyb bwyd cymunedol eich hun. Gallwch hefyd ymweld â hybiau bwyd cymunedol presennol a ddangosir ar ein map hybiau bwyd ar ddiwrnodau hwb.
Express your interest! (1).png

TANYSGRIFIO

Diolch!

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi

CYSYLLTWCH Â NI

07502 050099

Image of boardroom
  • White Facebook Icon

Dewch o hyd i ni ar

Facebook

bottom of page