top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Cwsmer 3, Hwb Bwyd Penfro

Mae cwsmer 3, 70, yn byw oddeutu hanner milltir i ffwrdd o’r hwb bwyd cymunedol. Mae’n prynu i deulu o ddau oedolyn ac yn mwynhau cael yr hawl i gynnyrch lleol ffres heb orfod teithio’n rhy bell.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Clywodd cwsmer 3 am Hwb Bwyd Cymunedol Penfro yn Foundry House drwy aelod o’r teulu a dechreuodd brynu bagiau ffrwythau a llysiau’n wythnosol. Roedd yn gweld archebu ar gyfer yr wythnos ganlynol yn iawn ond, fe fyddai’n well ganddo archebu a thalu ar-lein.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae’n hoff o’r ffaith bod y llysiau sydd yn y bag yr hyn y byddent yn ei ddefnyddio gartref beth bynnag a bod y cynnyrch yn ffres iawn. Mae mor gyfleus, yn agos ac mae’n hoff o’r ffaith ei fod yn cefnogi busnes lleol, gan ostwng milltiroedd bwyd a lleihau’r teithio i’r siopau.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae’n amlwg yn brosiect gwych i dyfwyr lleol a groseriaid annibynnol bach. Mae bod yn y gymuned yn rhywbeth cadarnhaol ac yn rhoi’r hawl i gynnyrch lleol, ffres i bawb. Fe fyddai’n prynu’r cynnyrch beth bynnag felly mae’n ei annog ef a’i wraig i fwyta mwy o lysiau. Hoffai cwsmer 3 wybod mwy am y cyflenwr, gwybodaeth nad yw’n glir er ei fod yn gwybod ei fod yn cefnogi busnes lleol.


"Casgliad hyfryd arall o lysiau i’w weld o’r hwb bwyd cymunedol yr wythnos hon." - Cwsmer 3
"Mae’n amlwg yn brosiect gwych i dyfwyr lleol a groseriaid annibynnol bach.". - Cwsmer 3

Dogfen ar gael:


WCFD Case Study - Pembroke Customer
.pdf
Download PDF • 888KB



bottom of page