top of page

Astudiaeth Achos: Cydweithrediaeth Lysiau Ffrith a Llanfynydd

Updated: Jan 13, 2023

Siaradodd tîm WCFD â Sally (gwirfoddolwr) ac Alan (cyflenwr) am eu cynllun a arweinir gan y gymuned.


Mae cydweithrediaeth lysiau Ffrith a Llanfynydd yn darparu bagiau o ffrwythau, llysiau a salad ffres ar gyfer eu casglu o’r Ganolfan Gymunedol ar ddyddiau Gwener. Dechreuodd hyn yn 2010 gyda chefnogaeth gan yr Uned Adfywio Gwledig ac mae wedi bod yn tyfu ers hynny. Er mwyn bodloni’r galw maen nhw hefyd yn darparu llaeth, wyau, menyn a mwy erbyn hyn.

Bu’r gydweithrediaeth lysiau yn gaffaeliad gwirioneddol i’n cymuned. Yn ogystal â darparu cyflenwad wythnosol o fwyd ffres cafodd ddylanwad ar grwpiau eraill yn ein canolfan gymunedol, yn cynnwys crefftau, ffotograffiaeth, grwpiau plant bach a chaffi cymunedol wythnosol. Rydym wedi canfod bod pobl yn mwynhau gwirfoddoli yn y gydweithrediaeth lysiau – mae’n gyfle i dreulio amser gyda ffrindiau a chymdogion -Sally Thomson Prif Wirfoddolwr y Gydweithrediaeth lysiau

Yn darparu bwyd iach a fforddiadwy mewn ardal sydd heb siop. Yn ystod y cyfnod clo cynyddodd eu harcheb o oddeutu 100 bag yr wythnos yn ogystal ag eitemau ychwanegol. Mae’n dod â phobl ynghyd ac mae wedi cynyddu defnydd a phoblogrwydd y ganolfan gymunedol. Erbyn hyn mae’n cynnwys caffi cymunedol lle gall pobl ddod am sgwrs ar ôl casglu eu llysiau.


Fel cyflenwr i fwydydd cydweithrediaethau ers dros 10 mlynedd, dywed Alan wrthym sut mae wedi eu galluogi nhw i gynllunio beth i’w dyfu ar gyfer marchnad barod a beth maent angen ei archebu gan eu cyfanwerthwr. Mae’n gwerthfawrogi’r danfoniad swmpus cyflym a’r system dalu gan ei fod yn drosiant uniongyrchol heb gyfnod talu hir ac mae’n ei alluogi i gynnig prisiau gwell.


“Rwy’n mwynhau gweld i le mae’r cynnyrch yn mynd a byddaf yn derbyn adborth ar unwaith gan gwsmeriaid, sy’n golygu fy mod yn gallu bodloni eu gofynion a chadw eu busnes. Mae’r cynnyrch yn fwy ffres oherwydd ei fod yn cael ei dyfu a’i brynu yn ôl y gofyn, sydd eto’n plesio pawb. Mae wedi bod yn wych gallu gweld y gydweithrediaeth yn datblygu i gynnwys caffi ac i weld pobl yn dod ynghyd sy’n gwneud y gydweithrediaeth fwyd yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir”. - Alan Huson (fferm Huson) cyflenwr y Gydweithrediaeth

Os hoffech gael gwybod mwy e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk

bottom of page