Gwirfoddolwr 1, 62 oed, yn byw 10 munud i ffwrdd o Hwb Bwyd Penfro ac yn beicio i’r ganolfan. Mae hi’n byw mewn teulu o ddau oedolyn ac wedi byw yn yr ardal ers 20 mlynedd. Mae Hwb Bwyd Cymunedol Penfro wedi cael ei gynnal ers mis Mehefin 2022.
Mae Foundry House yn agos i ysgol ac mewn lleoliad da yn y gymuned, gyda gweithgareddau eraill yn digwydd yno. Er hyn, mae’r hwb bwyd cymunedol wedi cadw grŵp craidd bychan ond triw o gwsmeriaid.
Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?
Mae Gwirfoddolwr 1 wedi bod yn gwirfoddoli yn Foundry House ers tro ac wedi cydweithio â staff PLANED i gael yr hwb bwyd cymunedol yn weithredol ers mis Gorffennaf 2022. Y gobaith oedd cael gwirfoddolwyr ychwanegol, fodd bynnag, y gwirfoddolwyr gwreiddiol sy’n dal i gynnal yr hwb.
Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?
Mae cwsmeriaid yn cydnabod bod yr hwb bwyd cymunedol yn ffordd gyfleus i gael yr hawl i ffrwythau a llysiau ffres wrth gefnogi busnes lleol. Mae’n werth am arian, mae yna ystod dda ac, ar y cyfan, mae’r ansawdd yn dda hefyd. Mae’n darparu’r llysiau wythnosol sydd eu hangen ac mae wedi dod yn rhan o drefn wythnosol i’r cwsmeriaid a’r gwirfoddolwyr. Mae’r gwirfoddolwr y mwynhau bod yn rhan ohono ac mae’n rhoi cyfle i sgwrsio â phobl bob wythnos.
Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?
Er mai bychan yw effaith yr hwb bwyd cymunedol ar y ganolfan, oherwydd y niferoedd isel, mae’n dal i fod yn dda ar gyfer y grŵp triw sy’n prynu bob wythnos. Nid yw wedi dod â phobl newydd gydag o, mae’n cael ei ddefnyddio gan bobl sydd eisoes yn gyfarwydd â’r ganolfan, felly mae’n darparu gwasanaeth gwerthfawr ac mae’r gwirfoddolwyr yn mwyhau rhedeg y hwb.
"Mae gan yr hwb bwyd cymunedol grŵp triw gwsmeriaid ac mae ganddo’r gallu i fod yn well a chael rhagor o bobl" - GWIRFOLODDWR 1
"Rydym wedi derbyn hyffordiant drwy'r [y hwb bwyd] sydd wedi datblygu ein set sgiliau.". -GWIRFOLODDWR 1
Dogfen ar gael:
Commenti