top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Helen's Produce, Maenorbyr

Mae Helen yn dyfwr wedi’i lleoli ym Maenorbyr. Mae ganddi nifer o stondinau lle mae’n gwerthu ei chynnyrch, ac mae hi’n gwerthu ei chynnyrch mewn siopau fferm lleol eraill. Mae

Helen wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau naturiol i dyfu ei chynnyrch, gan ddefnyddio cnydau tymhorol i roi amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau ffres a tymhorol i’w chwsmeriaid.


Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Cysylltwyd â Helen ym mis Mehefin 2023 i gyflenwi Hwb Bwyd Cymunedol Maenorbyr, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Giraldus. Wrth i Helen ymwneud â’r prosiect mae hi wedi gweithio â ffermwr a chyfanwerthwr lleol arall, Priory Farm, i roi cyflenwad cyson o gynnyrch a chynyddu’r hyn a gynigir yn yr hwb bwyd cymunedol. Maent yn gweithio fel cwmni cydweithredol i gynnig mwy o amrywiaeth o gynnrych, gan gynnwys ffrwythau tymhorol a salad.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae cyflenwi'r hwb wedi ei galluogi i gysylltu â Chanolfan Giraldus a gwneud cais i osod stondin newydd y tu allan i’r ganolfan gymunedol, gan ymestyn oriau agor y ganolfan fwyd i 24 awr. Mae cyflenwi’r hwb wedi galluogi Helen i ehangu ei sylfaen cwsmeriaid ac wedi sicrhau bod ei busnes yn fwy gweladwy yn ogystal â chadarnhau archebion wythnos ymlaen llaw sy’n helpu i leihau gwastraff bwyd.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Trwy ei phartneriaeth â siop Priory Farm, mae Helen wedi ehangu'r ystod o gynnyrch a gynigir yn yr hwb bwyd cymunedol, ac wedi tyfu sylfaen cwsmeriaid newydd. Mae’r hwb bwyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â digwyddiadau eraill yng Nghanolfan Giraldus ac mae wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr ac wedi ychwanegu gwerth ar gyfer defnyddwyr y ganolfan.


"Rwy’n dewis y llysiau ar gyfer yr hybiau bwyd y bore maen nhw’n mynd allan fel bod y llysiau mor ffres â phosib." - HELEN EVANS
"Fy mod eisiau i’m cynnyrch fod fel y bwriadodd natur iddo fod... Rwy'n defnyddio dulliau naturiol i dyfu fy llysiau ac osgoi plaladdwyr a gwrtaith cemegol." - HELEN EVANS

Dogfen ar gael:

WCFD Case Study - Helen's Veg
.pdf
Download PDF • 837KB



bottom of page