top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Hwb Bwyd Doc Penfro

Elusen leol fach yn Ne Orllewin Cymru yw FRAME sy’n cynorthwyo unigolion gydag iechyd meddwl, ac anableddau corfforol a dysgu. Mae ganddo ddau o allfeydd manwerthu, maent yn casglu ac anfon eitemau ac mae ganddynt nifer o weithwyr ynghyd â gweithlu gwirfoddoli anhygoel sy’n rhannu amser/sgiliau ac yn cynorthwyo’r unigolion sy’n ymwneud ag o.



Cynhelir Hwb Bwyd Cymunedol Doc Penfro ar ddydd Sadwrn yn Pembrokeshire Refill FRAME. Mae Pembrokeshire REFILL yn prynu symiau mawr o gynnyrch o ansawdd uchel, cynaliadwy ac yn gwerthu’n syth o’r dosbarthwr - heb y deunydd pacio gwastraffus a di-angen sydd o amgylch bron pob cynnyrch sydd mewn archfarchnad gonfensiynol. Mae’r cynnyrch wedi eu cael gan gyflenwyr moesol a lleol.


Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Mae aelodau staff Pembrokeshire Refill yn cymryd archebion hwb bwyd cymunedol drwy gydol yr wythnos a cyn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r cyflenwr lleol, Fresh & Fruity, sydd hefyd yn dyfwr.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Roedd FRAME yn awyddus i gael hwb bwyd cymunedol yn y siop ail-lenwi gan ei fod yn cadw arian yn lleol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cydfynd ag ethos eu system dim gwastraff. Roeddent eisiau gallu cynnig bwyd heb ei becynnu nad oedd wedi teithio milltiroedd ac fe helpodd y fenter WCFD gyda hyn.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd ond y gobaith yw y bydd yn dod â mwy o gwsmeriaid i’r siop ac yn tyfu sylfaen cwsmer. Mae FRAME wedi creu pedair swydd newydd yn y siop ac eisiau eu cynnal drwy ddatblygu’r busnes, fel bod y fenter WCFD yn cynorthwyo’r lleoliad masnachol drwy gynnig cynnyrch lleol, heb ei becynnu.


"Mae’r hwb bwyd cymunedol yn cadw arian yn lleol, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cydfynd â’n hethos dim gwastraff." - FRAME

"Mae fenter WCFD yn helpu’r lleoliad masnachol lleol, heb ei becynnu". - FRAME

Dogfen ar gael:




Comments


bottom of page