top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Hwb Bwyd Hengwrt, Llandeilo

Mae Menter Dinefwr yn fenter gymunedol wirfoddol, a sefydlwyd fel Menter Iaith yn 1999 ac fel asiantaeth i gynorthwyo’r gymuned a’r economi lleol. Maent yn gweithio i gefnogi a darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg, gan helpu’r gymuned a’r economi lleol i drwytho’r iaith Gymraeg. Maent yn cwmpasu Dwyrain Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio gyda phob sector yn y gymuned.


Dechreuodd Hwb Bwyd Cymunedol Hengwrt ym mis Mawrth 2023 ac mae’n cael ei gynnal yn wythnosol ochr yn ochr â’r siop sydd ar y safle, y ganolfan dreftadaeth a’r ganolfan ymwelwyr.


Beth yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Mae Menter Dinefwr yn cefnogi dysgwyr Cymraeg i gynnal Hwb Bwyd Cymunedol Hengwrt yn wythnosol. Maen tyn cymryd archebion ac yn cael eu cyflenwi gan Gerwyn’s Fruit & Veg sy’n fanwerthwr lleol.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae’n dod â’r gymuned i mewn ac mae’n hygyrch. Mae’n dod â mwy o ymwelwyr i’r adeilad ac yn denu pobl na fyddai’n dod i mewn fel arall. Mae cael yr hwb bwyd cymunedol yn Hengwrt yn ychwanegu gwerth i’r hyn sydd eisoes yn adeilad aml ddefnydd.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae cael yr hwb bwyd cymunedol fel rhywbeth ychwanegol yn golygu ei fod yn dod â gwerth ychwanegol ac yn mynd ag enw Menter Dinefwr allan i'r gymuned. Mae’n wych ei fod yn cysylltu gyda busnesau lleol ac yn eu cefnogi ac mae yna fuddion amgylcheddol gan ei fod yna arbed gyrru i’r archfarchnad leol.


"Mae’n dod â phobl i mewn na fyddai wedi dod i Hengwrt fel arall" - MENTER DINEFWR
"Mae’n wych ei fod yn cysylltu gyda busnesau lleol... ac mae yna fuddion amgylcheddol gan ei fod yna arbed gyrru i’r archfarchnad leol". - MENTER DINEFWR

Dogfen ar gael:

WCFD Case Study - Hengwrt
.pdf
Download PDF • 862KB



bottom of page