Sefydliad addysgol yw Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn nhref Llanbed. Mae’r Hwb Bwyd ar agor bob dydd Gwener rhwng 14:30 a 17:00.
Mae gan y brifysgol yr holl gyfleusterau sy’n gysylltiedig â phrifysgol a’r Hwb Bwyd wrth gwrs!
Lansiwyd yr Hwb Bwyd ar 16eg Gorffennaf 2022.
"Mae CTG yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon sy’n cael ei chyflwyno gan PLANED ar draws Gorllewin Cymru. Bydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned brynu bwyd ffres ac iach fforddiadwy. Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y gymuned yn manteisio ar hyn, yn enwedig gan ein bod yn gweithio gyda busnes lleol, Six Nations Fruit and Veg, sydd wedi cytuno i gefnogi’r fenter hon." - Cydlynydd Canolfan Tir Glas, Hazel Thomas
Mae’r Hwb Bwyd ar agor bob dydd Gwener rhwng 14:30 a 17:00. Mae ffrwythau a llysiau ar gael fan hyn.
"Mae popeth mor ffres... Yn well na’r archfarchnad am sawl rheswm, gwerth da iawn am arian, amrywiaeth dda, diogelwch bwyd ar lefel leol." - Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd
"Dwi’n gwerthfawrogi’n fawr y gymuned hon sy’n hyrwyddo cymryd cyfrifoldeb yn lleol am ddiogelwch bwyd, a dwi mor ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr, oni bai amdanyn nhw, ni fyddai’n digwydd. Mae’r bocsys ffrwythau a llysiau yn sicr yn cynnig gwerth am arian. - Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk
留言