top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Tŷ’r Ffowndri , Penfro

Canolfan Gymunedol yw Tŷ’r Ffowndri yn nhref Penfro. Mae’r Hwb Bwyd ar agor bob dydd Llun, 15:30 - 16:30.



Ceir digonedd o weithgareddau yn Nhŷ’r Ffowndri fel bowls mat byr, ysgol ddrama, caffi seiber a’r Hwb Bwyd wrth gwrs!


Mae Tŷ’r Ffowndri yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr. Lansiwyd yr Hwb Bwyd ar 20fed Mehefin ar gyfer cymuned Penfro. O’r Hwb Bwyd hwn, gallwch brynu ffrwythau, llysiau a salad.


Gwerthwr ffrwythau a llysiau o’r enw Dai's 5 A Day yn Noc Penfro sy’n cyflenwi’r Hwb Bwyd hwn, sy’n 2.5 milltir yn unig o Dŷ’r Ffowndri.


"Dewis gwych ym mag yr Hwb Bwyd heddiw!" – Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd
"Detholiad hyfryd arall o lysiau o’r Hwb Bwyd yr wythnos hon.". - Cwsmer gwerthfawr yr Hwb Bwyd

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: WCFD@Planed.org.uk


bottom of page