top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Capital Roasters

Ers 1991 mae Capital Roasters wedi bod yn rhostio coffi, gan gyflenwi cwsmeriaid lleol a chwmnïau ledled y DU. Mae eu coffi yn cael ei ardystio gan Nod Cynnyrch Sir Benfro, gan sicrhau ffa o'r ansawdd uchaf sy'n cael eu tyfu a'u cynaeafu gyda gofal.


Mae'r coffi yn cael ei rostio'n ffres yn y ffatri yn Noc Penfro ac maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion eraill fel peiriannau hidlo, siwgrau a suropau arbenigol.


Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Mae Capital Roasters wedi bod yn cyflenwi'r peiriant gwerthu cymunedol ers mis Mawrth 2023 gyda bagiau o goffi Cymreig ffres wedi'u prosesu a'u rhostio.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae Capital Roasters yn cydnabod bod, bod yn rhan o brosiect Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro yn rhoi cyfleoedd hysbysebu, hyrwyddo a chyfle i fod yn fwy amlwg fel busnes yn rhad ac am ddim iddynt. Mae'n ceisio cyrraedd sylfaen cwsmeriaid newydd na fyddant wedi’u cyrchu fel arall.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Cafwyd ychydig bach yn fwy o fasnach a rhywfaint o sylw ychwanegol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n rhoi cyfle i addysgu pobl am bwysigrwydd prynu cynnyrch sy’n cael eu

cynhyrchu’n lleol ac mae'n cefnogi menter gymunedol. Mae pawb ar eu hennill hyd yn hyn ac ni fu unrhyw heriau nac anawsterau wrth gyflenwi'r peiriant gwerthu cymunedol.


"Dydych chi byth yn gwybod pwy allai godi bag o'n coffi o'r peiriant gwerthu cymunedol." - Capital Roasters
"Roedd cyflenwi'r peiriannau gwerthu yn benderfyniad hawdd i ni." - Capital Roasters

Dogfen ar gael:


PFCV Case Study - Capital Roasters
.pdf
Download PDF • 772KB



bottom of page