top of page

ASTUDIAETH ACHOS: FFERM STEYNTON

Mae Fferm Steynton wedi bod yn y teulu Davies ers dros 100 mlynedd ac mae'n fferm gymysg ger Aberdaugleddau gyda gwartheg, ieir a hwyaid sy'n darparu cig, llaeth ac wyau ar gyfer siop y fferm ar y safle. Maen nhw hefyd yn tyfu tatws, amrywiaeth fawr o lysiau a blodau’r haul, i gyd yn cyfrannu at brofiad y cwsmer o ymweld â siop y fferm sy'n cynnwys pethau sy'n cael eu tyfu a'u cynhyrchu ar y fferm.


Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Gofynnwyd i Fferm Steynton fod yn lleoliad peilot gan eu bod nhw mewn lleoliad gwledig, bod ganddynt eu cynnyrch eu hunain a bod ganddynt brofiad blaenorol o gael peiriant gwerthu ar y safle. Dechreuodd y peiriant gwerthu cymunedol fasnachu ym mis Mawrth 2023 ac fe'i lansiwyd yn swyddogol ym mis Mai 2023.


Mae'r peiriant wedi'i leoli gerllaw'r peiriant gwerthu llaeth presennol ac mae'n darparu mynediad 24 awr at eu cynnyrch ffres, cartref eu hunain a chynhyrchion eraill sydd ar gael ar hyn o bryd yn siop y fferm, ynghyd â chynhyrchion lleol eraill gan gyflenwyr o ffynonellau PLANED os oes angen.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae cael y peiriant gwerthu cymunedol wedi cynnig amlygiad ychwanegol drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mae'n cynnig cyfle i arddangos rhai o'r cynhyrchion o siop y fferm. Mae'n rhoi cyfle i gwsmeriaid brynu cynnyrch yn ystod oriau pan fydd y siop ar gau ac felly gall gynnig gwasanaeth i'r bobl hynny na allant fynychu yn ystod y dydd, gan ymestyn cyrhaeddiad y busnes.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Mae'n rhoi cyfleoedd i gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol werthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr, sy'n hanfodol i ailadeiladu economi bwyd lleol ffyniannus yng Nghymru gan ddefnyddio cadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy.


"Y peiriant gwerthu yn ategu'r siop yn ystod yr oriau agor tra'n cynnig gwasanaeth y tu allan i oriau pan fydd y siop ar gau, gan ddod ag incwm ychwanegol i mewn a chyrraedd sylfaen cwsmeriaid newydd". Fferm Steynton
"Gellir ailgylchu unrhyw ddeunydd pecynnu sy’n cael eu defnyddio ac nid oes unrhyw blastig untro yn cael ei ddefnyddio yn y peiriant na'r siop" - Fferm Steynton

Dogfen ar gael:

PFCV Case Study - Steynton Farm
.pdf
Download PDF • 755KB



bottom of page