top of page

ASTUDIAETH ACHOS: Peiriant Gwerthu Llanteg

Mae peiriant gwerthu Llanteg wedi'i leoli ar yr A477, ger Gardd Farchnad Greenacre ochr yn ochr â pheiriant gwerthu llaeth presennol. Bydd yn cael ei gynnal a'i stocio gan dri chynhyrchydd, gan weithio gyda'i gilydd fel cwmni cydweithredol; ffermwr llaeth, garddwr marchnad a ffermwr cig eidion a defaid organig lleol.



Bet yw’r berthynas â’r prosiect WCFD?

Mae tri ffermwr wedi dod at ei gilydd i gynnal y peiriant gwerthu fel cynllun peilot, ar ôl mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect PFCV. Roedd gan yr ardal beiriant gwerthu llaeth yn barod felly roedd profiad o redeg a stocio'r math hwn o fenter ac mae yna sylfaen gwsmeriaid bosibl yn barod ac mae siop gardd farchnad ar y safle.


Mae'r peiriant wedi'i leoli gerllaw'r peiriant gwerthu llaeth ac mae'n rhoi mynediad 24 awr at eu cynnyrch cartref eu hunain a chynhyrchion eraill sydd ar gael yn siop y fferm ar hyn o bryd, ynghyd â mwy o gynhyrchion lleol gan gyflenwyr o ffynonellau PLANED os oes angen.


Pa agwedd sydd wedi bod fwyaf defnyddiol?

Mae cael y peiriant gwerthu yn cynnig gwerthiannau ychwanegol y tu allan i oriau na all y siop a'r blwch gonestrwydd ddarparu ar eu cyfer e.e. cynhyrchion oergell ac mae wedi ychwanegu diogelwch na all y blwch gonestrwydd ei ddarparu.


Beth yw canlyniad bod yn rhan o’r prosiect a’r effaith ar yr unigolyn?

Er ei bod yn gynnar, mae tystiolaeth bod y peiriant yn dod â sylfaen cwsmeriaid newydd i mewn, cwsmeriaid gwahanol ac yn ymestyn cyrhaeddiad i'r gymuned ehangach.


"Mae'n rhoi cyfle nid yn unig i hyrwyddo cynnyrch y naill a’r llall, ond i gefnogi cynhyrchwyr bach eraill hefyd ac felly'n byrhau'r cadwyni cyflenwi lleol." - CYFLENWR LLANTEG
"Roedd cyflenwi'r peiriannau gwerthu yn benderfyniad hawdd i ni.". - CYFLENWR LLANTEG

Dogfen ar gael:




Comments


bottom of page